Cover

Yr Alarch

gan John Harding


Cyrhaeddais y dref fach yn hwyr. Y tren olaf, bron yn wag, a ddaeth a mi o’r brifddinas, a phan ddisgynnais o’r tren ar orsaf olaf ond dwy y llinell, ni welais ond un person arall: gwraig ieuanc yn gadael y llwyfan a diflannu’n syth i mewn i’r cysgodion. Doedd neb yn yr heol, y modurdy ar gau, ffenestri’r ychydig o siopau yn dywyll, a seiniodd fy nghamau yn glir ar y palmentydd yn nistawrwydd y nos. Un car yn unig a aeth heibio, a ddiflannu’n ddigyffro. Ac wedyn, rhwymwyd y rhesi o dai bach hynafol gan y tawelwch ac aroglau mwynaidd oedd yn dod i mewn dros y morfa. Dilynais yr heol tua’r dref a’r lanfa ond rhai cannoedd o lathenni oddi wrth yr orsaf. Troi i’r dde a mynd heibio i un o’r tair eglwys fawr ganoloesol a atgoffai’r dyddiau pan oedd porthladd pwysicaf y deyrnas yna. Wedyn drwy lon gul fer, disgyn grisiau, mynd heibio i dai a wynebau siorsiaidd cain, ac o flaen prif westy’r dref, ac wedi eiliad, cerdded ar lechi palmant y cei.
Nid anfonasai Madlen destun ffon imi cyn iddi ehedfan i Frwsel, y dydd Iau blaenorol. Roeddwn yn rhyfeddu beth oedd wedi digwydd, a beth oedd hi yn ei wneud. Ond roedd gennyf agoriad drws y cwch yn fy mhoced. Roeddwn i’n llueddig dros ben ar ol wythnos o orffwylltra ariannol mewn swyddfa ym Mhorthfa Canaria, Ynys yr Helgwn. Ni fyddwn yn mwynhau’r rhai dyddiau ar fy mhen fy hunan yn llwyr heb Madlen, ond roedd cyfle o ysbaid yn y gilfach hynafol hon yn ddeniadol iawn. Cerddais ar hyd ymyl y porthfur gan osgoi rhaffau ac ystanciau clymu, heibio i res o gychod pleser a physgota. Ac o’r diwedd dyna hi: Y Forforwyn, yn gorwedd yn dawel ar yr afon, lle glaniodd, mewn oes a fu, brehinoedd fel Edward y Trydydd neu Siarl yr Ail. Dim ond sibrydion swil y dyfroedd, swn fy esgidiau ar fwrdd y cwch a chlic yr agoriad yn y clo yn y nos ddudew lonydd oddi tan y ser yn yr wybren glir.

Fe daflais fy siaced a’m bag, eistedd ar faincwely’r prif gaban, a phwyso yn ol gyda’m traed dan y bwrdd yn y canol. Syllais o gwmpas y caban a nodi’r dodrefn, y lluniau, y llenni, y goleuni a threfn y celfi: yn syml ond yn dwt ac yn chwaethus iawn. Ymlaciais. Gwneuthum gwpanaid o goffi yn y gegin fechan. Aeth yr amser heibio heb imi fod yn ymwybodol ohono. Teimlais yn gartrefol ac anghofio bob gofid. Anadlais yn ddwfn gyda synhwyriad o ryddhad: am y tro cyntaf ers blynyddoedd! Fe ymddangosodd imi fel pe byddai’r holl fyd o’m cwmpas wedi darfod, y cwch ei hunan yn fy mynwesu yn gysurus, a llonyddwch fel cwmwl disglair wedi disgyn arnaf. Llithrais i gwsg hapus, fel nofio mewn mor heddychol, ond gyda’r aroglau ysgafnaf o flodau melys, a thinciad bach yn fy meddwl fel cerddoriaeth bell.
Bu fy nghwsg yn llonydd. Roeddwn fel baban yn ei grud, yn teimlo’n ddiogel ac yn ddyrchafedig oddi wrth drafferthion y byd allanol. Gan deimlo siglo’r afon dawel oddi tanaf, fe ddechreuais i freuddwydio ar unwaith: yn esgyn i fyny uwchben y dref, mewn torf o adar tawel, ac yn edrych i lawr ar y ddaear dan y lleuad. Roeddwn i fel petawn yn ehedfan gan gylchu uwchben toi’r tai a’r eglwysi, yn gweld isod yr afon fel rhibin arian plygedig oedd yn crwydro heibio i’r hafan fach ac ar draws y morfa tua’r mor a’r gorwel. Dim sain ond suon adenydd yr adar, a finnau yn ehedfan yn ddistaw fel un ohonynt. Ac yna, mewn amrantiad, dyna fi yn ol, yn sefyll ar fwrdd y llong ar fy mhen fy hunan, yn edrych i fyny ar y ser, ac wedyn ar grychau dwr tywyll yr afon; ac yn sydyn, sylwais ar alarch mawr yn nofio yn dawel rai llathenni oddi wrthyf. Roedd yr aderyn urddasol hwnnw yn fy ngwylio: yn union, heb symud ei olygon craff. Ond fe feddyliwn i taw cyfeillgar oedd ei osgo ataf, a thyner hefyd: fel petai yn gynghreiriad cydymdeimladol yn erbyn y byd gelyniaethus tu hwnt i’r dref.
Fore trannoeth deffroais i amgylchoedd newydd. Wyth o’r gloch, goleuddydd, a’r heulwen yn llifo yn euraidd drwy ffenestri bychain y caban. Ychydig seiniau oddi wrth y cei, a chan yr adar o gwmpas y cwch. Fe deimlais wefr drwy fy nghorff i gyd, ac ysgogiad tu mewn i’m henaid, a disgwyliad cryf o ddarganfyddiad arwyddocaol yn yr hen em o dref. Fe’m croesawyd gan awyr y bore, a lleisiau cynhyrfus y bobl oedd yn gosod rhai stondinau ar gyfer ffair elusennol yng nghornel maes parcio gerllaw y cei. Glaniais a cherdded ar y cei. Croesais i’r ochr arall, ac eistedd wrth fwrdd gron ar y palmant o flaen y gwesty, a chymryd cwpanaid o goffi a croissant. Edrychais ar y ceir oedd yn troi’r cornel yn araf dan ymwthiadau llofftydd y dafarn o’r bymthegfed ganrif yr ochr draw. Meddyliais am Madlen a’r amser diwethaf pan aethom ni gyda’n gilydd i’r theatr: cwrdd yn y sgwar wrth ddrws ei swyddfa, rhuthro mewn tacsi i’r theatr, gweld drama a alwyd yn ‘gythruddol’ gan feirniaid y newyddiaduron, yn ol i’w fflat yn hwyr:- y cyfan, oriau a orffennodd mewn anfodlonrwydd, siom hyd yn oed yn ei gwely.
Ond roedd Madlen yn dal yn fy meddyliau -ei llais, ei hwyneb, teimlad ei gwallt yn erbyn fy ngrudd- wrth ddechrau ymweld a rhannau eraill y dref. Ar hyd yr heol gul blygedig a arweiniai o’r cei, roeddwn yn ceisio ei chyrraedd ar fy ffon symudol. Dim ateb; a gadael amryw negesau yn gofyn am newyddion oddi wrthi. Ceisiais ffonio i’r pencadlys yn Mrwsel, ond doedd neb yn gallu cael cysylltiad gyda hi. Wedyn ffoniais i’r gwesty; ond eto, dim gwybodaeth. Nid oedd hi wedi’i chofrestru ar y ddesg groeso. Ble roedd hi? A pham nad oedd hi wedi ateb fy nhestunau-ffon? Cyrhaeddais ddechreuad y rhodfa a ddilynai amddiffynfeydd canoloesol o gwmpas y dref. Dechreuais i gerdded ar hyd y llwybr dan ganghennau’r rhesi o blanwydd, onn a cherdin. Roedd golau’r haul yn taflu patrwm y dail ar y llawr o’m blaen, a llifai can yr adar gyda sibrwd yr awyr hafaidd. Roedd camlas -gweddill hen ffosydd-
amddiffyn y dref- yn cydredeg a rhan y llwybr; a nofiai hwyaid ar y dwr rhwng rhai pysgotwyr. Arhosais yn sydyn wrth sylwi ar rywbeth arall ar y dwr. Roedd alarch fy mreuddwyd yna, ac yn syllu arnaf a’r un osgo craff a gwybodus a welais yn y nos.
Yr ail noson euthum i’r caban yn hwyr. Gorweddais ar y faincwely, gan edrych ar nenfwd y caban, a chan ymdrwytho yn heddwch y noddfa. Tra syrthio’n ddistaw i gysgu, fe welais y coed peintiedig uwchben yn ymdrawsffurfio yn wybren ddu gyda’r lliaws o ser ar ei thraws. Teimlais anadl ysgafn awyr y nos, a chlywed swn pell adenydd adar, ac yn anghysbell, cerddoriaeth yn tincian, a drodd yn llais merch oedd yn galw: yn fy ngalw i. Gwybum taw llais Madlen oedd, ond ni allwn glywed y geiriau yn eglur. Beth oedd hi am imi wybod? A phaham nad oedd hi wedi ffonio ers gadael am y Cyfandir? Bu fy nghwsg yn rhwyfus. Deffrois dan alw ar Madlen yn fwy nag un tro, a syrthio ar unwaith yn ol i’r freuddwyd, gan estyn fy llaw am gael cyffyrddiad a hi. Ymddangosodd fel pe bai hi ger fy llaw yn sefyll yn nwr yr afon. Syllais tuag ati, heb weld ond yr alarch eto, yn fy ngwylio yn ddiysgog. Ac yn sydyn, y bore heulog, a dyna fi yn effro ac yn ceisio cofio a deall y geiriau yn y freuddwyd; ond roeddynt wedi dianc. A hiraeth yn pwyso arnaf yn drymach am Madlen.

Y Sul, deffrois yn syth, gweld pelydrau haul yn goleuo’r caban, a chlywed lleisiau yn agos ar y cei ac mewn cychod ar yr afon. Y Sul; nid oedd y Sul yn ddiwrnod o dawelwch i mi gan amlaf; ond teimlais yr ysgogiad i ddianc i ffwrdd, hyd yn oed oddi wrth fore llonydd yn y dref fach hyfryd honno. Mynd heibio i gwt o ymwelwyr wrth ymyl y cei a oedd yn disgwyl taith bleser ar yr afon, ac i dorf o feicwyr henaidd o flaen men hufen ia. Cerddais yn gyflym drwy stryd fach gefn, ac wedyn un arall, a dod o hyd i ffordd a arweinai i ffwrdd o ganol y dref tua’r wlad, gyda’i ffermydd, ei choedwigoedd bach, ei meysydd helaeth, ei lonydd, ei phentrefi bach a’i ffrydiau cudd. Euthum fel pe bawn yn cael fy nhynnu gan fagned. Fe fum yn rhodio am fwy nag awr heb sylwi ar yr amser na’r pellter. Collais bob syniad o gyfeiriad a lle; ond aeth fy nghyflwr yn well ac yn llonyddach gyda phob cam.
Teimlais fy mod ar daith bwysig a chymwys o fewn gwlad ddieithr ond hudol a chroesawgar. Ond, er fy mod mor llonydd wrth gerdded yn fy mlaen, fel na fynnwn adael yr ardal, yn yr un amser roedd ymwahanu oddi wrth Madlen yn pwyso yn fwyfwy ar fy nghalon. Dim newyddion ohoni. Adleisiai yn fy nghof yn brudd y geiriau dig arferol ar ol y diwrnod diweddar o flinder cynhyrfus yn swyddfeydd Ynys yr Helgwn. Ar ol awr a hanner o daith, eisteddais ar y glaswellt mewn cornel llecyn o borfa ar lan un o nentydd bach yr ardal. Edrychais ar y lle gyda phleser: canghennau’r llwyf, gloynnod byw a gwas y neidr yn hedeg uwchben yr hesg yng ngolau’r haul. Clywid swn tren yn y pellter, ac roeddwn yn synfyfyrio ar gymylau cawraidd fel mynyddoedd eiriog yn arglwyddiaethu dros y gwastadedd. Wrth godi fy
ngolwg i’r awyr, clywais swn adenydd, ac yn sydyn gweld, mor isel a chopau’r coed, dyrnaid o adar mawr yn cyrraedd o’r de-ddwyrain. Troesant hwy uwchben y coed o’m blaen, a chylchu yn fuan. Daeth un ohonynt i hedeg yn is na’r lleill: alarch mawr disglair -fy alarch fy hunan! Edrychodd arnaf yn graff cyn troi tua’r gogledd a diflannu y tu hwnt i’r llwyn, fel pe bai ef yn fy mlaenori.

Codais ar fy nhraed a dilyn cyfeiriad yr eleirch, drwy glwyd ddrylliedig yn y llwyn, yn gwthio drwy dorf o graf y geifr a helyglys hardd. Dyna fi wrth ymyl mynwent fach. I’r aswy, fe welid hen eglwys. Roedd y lle fel pe bai natur wedi dechrau goresgyn y byd dynol. Doedd dim arwydd o fywyd beunyddiol dynion, dim ond to ty fferm yn ymddangos yr ochr draw i faes cyfagos, a beisicl yn pwyso ar fur yr eglwys ymysg y danadl yn agos i’r drws. Popeth yn heddychlon. Eglwys fach o’r drydedd ganrif ar ddeg (er bod hefyd gweddillion eglwys hyn -Normanaidd neu Sacsonaidd- dan arwynebedd y muriau) yn nodweddiadol o lan blwyfol wledig y Canol Oesoedd. Sylwais ar olion o ddirywiad ar y muriau, rhai gwydrau holltiedig yn y ffenestri, chwyn yn y glawgafnau, a’r twred cloch wedi colli rhai o’i lechi. Ond roedd y drws yn ei gyntedd bach yn gilagored. Daeth awydd arnaf i fynd i mewn. Gwichiodd y colfachau pan wthiais ar y drws, ac euthum ar flaenau fy nhraed i sedd i’r chwith yng nghefn corff yr eglwys.
Roedd golau ar y cymunfwrdd yn y gangell. Sylweddolais fod oedfa yn barod i ddechrau. Clywais gar yn cyrraedd tu allan ar y graean, a chlepiwyd y drws. Camre yn y gyntedd, a’r colfachau yn gwichio drachefn. Cerddodd dyn a gwraig ieuanc i sedd ar y dde. Canodd y gloch yn y twred; hanner dydd. Aeth offeiriad i mewn drwy ddrws ar chwith y gangell. Dyn tal a gwallt llwyd oedd ef, a wisgai ystola ddu a gwenwisg. Aeth i’w sedd ger y ddesg ddarllen, a chychwynnodd yr oedfa. Roedd y gweinidog yn rhannol yn y cysgodau. A doeddwn i ddim yn gallu gweld mynegiant ei wyneb. Anodd oedd hi hefyd glywed ei eiriau i gyd, oherwydd codi a disgyn ei lais. Ond roedd y brawddegau yn ddymunol i’m clustiau, a daeth rhai cymalau clir gyda nerth a gwres:

«Y llinynnau a syrthiodd i mi mewn lleoedd hyfryd: ie y mae i mi etifeddiaeth deg...»

Meddyliais nad fi oedd wedi dewis fy llinyn y diwrnod hwnnw, a dichon bod bwriad da ym mhopeth a ddigwyddasai hyd yna! Ond, fe ryfeddwn i eto. Pam doeddwn i ddim wedi cael newydd oddi wrth Madlen; a ble roedd hi?

Yn yr un eiliad trois fy ngolwg i du aswy corff yr eglwys; a rhois fy nghalon lam yn fy mynwes. Doeddwn dim wedi sylwi ar berson oedd yn eistedd ar flaen y chwith. Ond disgleiriodd pelydr haul ar ben dynes: ar wallt euraidd. A gwelais Madlen!
Trawais f’amrant a sylweddoli ar unwaith nad Madlen mohoni. Wrth edrych eto deallais nad oedd y wraig yn ieuanc chwaith. Yn wir, roedd hi heb unrhyw debygrwydd i’m cariad! Rhedodd meddyliau am Madlen drwy fy mhen, a rhyfeddais sut yr oedd hi bellach mor bwysig, mor anhepgor i’m bywyd. Sut oeddwn i wedi bod yn gallu byw heb fod yn agosach ati hyd yn hyn? Fe darddodd ffynnon o serch a hiraeth ynof i, a theimlais angen ei chysuro a’i hamddiffyn. Dan angofio’r gwasanaeth a oedd yn parhau, llithrais i’m penliniau. Am y tro cyntaf yn fy mywyd, meddyliais am weddio amdani, ond ni wyddwn sut!

Teimlais y ffaith fy mod ar lwybr wedi ei baratoi rhywsut amdanaf, ac edrychais gyda syndod arnaf fy hunan yn penlinio mewn eglwys. Cymerais gipolwg i lawr ar fy mhenliniau ar yr hesor. Ac yn yr un eiliad sylwais fel yr oedd bas y sedd yn fy mlaen yn sefyll ar feddfaen, ac yn cuddio rhan ohono. Yn ystod atgyweiriad yr adeilad yn yr oes fictoriaidd, gosodwyd seddau pinwydd staeniedig ar draws y beddau hynafol ym mhalmant yr eglwys. Llech o’r ail ganrif ar bymtheg oedd hon; a darllenais arni ran weladwy yr arysgrifen:

‘Amaethwr y Plwyf hwn a Magdalen ei Wraig yr hon a fu farw y seithfed o Fehefin 1671’

Seiniodd y geiriau yn fy mhen fel pe byddai rhywun cyfagos yn eu dweud i mi:
‘Madlen ei wraig. Madlen dy wraig’!
Nid arhosais i ddiwedd y wasanaeth, ond euthum allan i oleuni’r prynhawn. Euthum ar hyd y llwybr rhwng y beddfeini i’r llidiart a thoad a throi i edrych ar yr hysbysfwrdd: ‘Eglwys Sant Sior’. Dechreuais i gerdded ar hyd y lon, heb fwriad, a’m pen yn llawn o ddryswch. Fe ymddangosodd y wlad, y coed, yr haul a phopeth o gwmpas fel pe bai’n amneidio at ddyfodol o foddhad. Ar ol llai na hanner milltir, cyrhaeddais ychydig o dai wrth y lon a thafarn yn y canol. Euthum i mewn i’r dafarn, archebu brechdan a diod wrth y bar, a mynd i ystafell yn y cefn a edrychai ar yr ardd. Roedd y teimlad o ddaioni yn parhau, ac ymlaciais mewn cadair mewn cornel wrth y ffenestr.

Ar ol rhyw bymtheng munud fe chwalwyd fy nistawrwydd gan dorf o bobl ieuainc yn dod i mewn. Adnabum ar unwaith un ohonynt. Dyn a oedd wedi gweithio mewn banc yn agos i mi yn y Ddinas cyn i mi fynd i’r cwmni ym Mhorthladd Canaria. Fe gyrddais ag ef weithiau mewn gwindy ger y Gyfnewidfa Frenhinol. Tom Edwards; dyn croch, amrwd ei foesau, cynhyrfus. Roedd ef wedi mynd yn dewach, a chochach ei wyneb, ers y tro diwethaf y gwelais ef: nid amser maith cynt. Roedd ei gariad gyda fe: Ninette, dynes aflednais dros-ben, bargyfreithwraig helaeth ei chyflog.

Roedd Edward a rhai eraill a weithiai yn y Ddinas wedi treulio’r bore yn saethu peintbeli ar faes rhyw fferm yn agos. Roedd eu sgwrs yn swnllyd ac yn llawn o dwptra a rhegi diamcan. Roeddent wedi gadael eu dau gar mawr trawsyriad-pedair- olwyn o flaen y dafarn.

Roedd gwraig ieuanc yn y grwp hefyd yr oeddwn wedi’i gweld rhywbryd mewn cyfarfod busnes neu barti i bobl y Ddinas. Daeth hi i eistedd wrth fy ochr a siarad gyda fi, ond doedd gennyf ddiddordeb yn ei sgwrs wag a diflas. Prynodd hi lasiad o gwrw i mi a cheisiodd fod yn ddeniadol. Ond daeth hi, a’r lleill hefyd, i’m golygon yn fwyfwy annymunol: hyll, ynfyd, ffiaidd. Eithr roedd llun o Madlen yn dal yn fy meddwl. A doeddwn i ddim yn gwrando ar ddim yr oeddent yn son amdano, ond yn ei dychmygu hi yn gwenu arnaf. Ac yna, canodd fy ffon symudol: dyna gyfle i ddianc. Myngialais rai geiriau o ymddiheuriad, ac euthum allan i’r ardd.

Fe glywyd llais annisgwyl. «Ric yma. Rw i’n siarad o’r swyddfa.» «Ric?» Roeddwn yn gobeithio am gael clywed Madlen. «Pam wyt ti ar waith ar y Sul? Beth sy’n digwydd?» «Wyt ti ddim wedi clywed y newyddion? Mae’r cwmni i gyd wedi methu! Mwyafrif o fuddsoddion y Gronfa wedi dod yn ddi-werth dros nos! Yr holl echwynwyr yn gofyn am eu harian; a’r banciau yn gwrthod yn hollol roi benthyg. Dyma ddiwedd y Ddinas! Yn sicr, dim swydd yfory. Rwy i’n mynd i golli popeth: y fflat, y ty gwyliau ym Mhrofens, fy mlwydd-dal. Y cwbl: arswydus!» «Wyt ti wedi derbyn newyddion oddi wrth Madlen?» «Beth? Madlen! Beth fyddai hi’n gwneud amdanon ni?» «Wel, dim gair oddi wrthi ers dydd Iau, a rw i am siarad a hi. Roeddwn i’n meddwl...» Clywais Ric yn rhegi cyn terfynu’r sgwrs.

Trois at ddrws y dafarn, ond penderfynu nad awn i yn ol i mewn, a gadael yr ardd drwy lidiart ochr. Euthum tua’r dref drwy’r wlad, yn ystyried Madlen, yr alarch, fy mreuddwydion a’r dyfodol addawol. Ar y prynhawn hwnnw doedd cyfundrefn gyllidol a bancio ddim yn bwysig i mi; rhagorai’r olygfa ac ymdeimlad o heddwch arnynt i gyd.

Y noson honno, noddfa heddychlon oedd y cwch a chysgais yn dawel. Ni freuddwydais ond un tro cyn deffro. Gwelais oleuni yn gloywi ar ddwr yr afon, a throi a gweld fy alarch fel y disgwylwn. Roedd yn nofio yn gyfagos at y cwch. Cefais y sicrwydd bod yr aderyn yn fwy caruaidd ac yn gofalu amdanaf yn well nag arfer. Edychais arno a chlywed y gair ‘cariad’. Edrych unwaith eto, a nid yr alarch yr oeddwn yn ei weld ond Madlen, a hithau yn gwenu arnaf ac yn sibrwd yr un gair.

Torrwyd y freuddwyd hyfryd gan fy ffon a oedd yn canu. Cymerais gipolwg ar fy wats: chwech o’r gloch. Ai dyna Ric yn ol?
Atebais «Helo.» Ond clywais, nid Ric, ond llais, melys, cerddorol, hudol; Madlen! «Cariad! Madlen! Ble rwyt ti?» «Ym Mrwsel. Rw i’n mynd i’r maes awyr mewn tacsi ar hyn o bryd.» «Ond Madlen. Ble rwyt ti wedi bod? A pham dwyt ti ddim wedi ateb fy ngalwadau a negesau?» «Paid a gofyn nawr. Fe fydda i’n esbonio popeth pan wela i di. Wyt ti’n gallu dod i’r maes awyr: Maes Awyr Dinesig?» «Yn iawn. Fe fydda i’n gadael ar unwaith. Rw i’n awyddus i’th weld yn fuan.» «A minnau hefyd i’th weld di.»

Rhuthrais nerth fy nhraed o’rcwch, ar draws y cei, i’r swyddfa dacsys ger neuadd y dref. Yn ffodus, roedd tacsi yn aros yn y stryd yn barod, y gyrrwr yn sefyll ar y palmant yn smygu. «Allwch chi fynd a fi i’r Maes Awyr Dinesig? Dyw e ddim yn rhy bell?»
«Dim trafferth,» atebodd ef. «Dewch i mewn.» I ffwrdd i’r Ddinas. Gyrrodd y dyn yn gyflym, ond yn ddiogel. Roedd y ffyrdd yn glir o drafnidiaeth ar y dechrau; ac mewn ychydig o amser cydiodd y ffordd o’r dref a’r draffordd i’r Brifddinas. Roedd yna rhesi o loriau estron oedd wedi dod o’r hafan ar ol croesi’r Culfor o’r Cyfandir, ond aeth y tacsi fel saeth. Yn fuan, gwelais yn y pellter tyrau canolfan ariannol y Brifddinas. Nawr roeddwn yn eu gweld a diddordeb newydd a sylwi, ynghanol clwstwr o adeiladau mawr newydd, ar dwr uchel Porthladd Canaria a’i oleuni yn fflachio fel goleudy yn fy arwain yn ol at Madlen, a hefyd - roeddwn newydd ddechrau teimlo- ataf fy hunan!

Cyraeddasom y maes awyr mewn amser da. Ond rhuthrais i’r dderbynfa gan ofni methu fy nghyfarfod gyda Madlen. Cyrhaeddais yn fore, ac roedd rhaid i mi aros am ryw ysbaid. Roedd fy nghalon yn curo yn gyflym. Ni allwn sefyll yn llonydd, ac euthum i fyny i gaffe lle roedd ffenestr a edrychai ar y lanfa. Prynais gwpanaid o goffi, ond roeddwn rhy ddiamynedd i’w yfed. Syllwn ar hyd y lanfa ac i fyny i’r wybren yn chwilio arwydd ei bod hi’n cyrraedd. Roedd cymylau yn cuddio’r haul; ac ni welais ond haid o adar yn codi o ddwr yr hen ddociau wrth ymyl y lanfa. Tybiais fod fy alarch fy hunan yn un ohonynt. Yna ymddangosodd yr haul, a gwenodd yr wybren gyda goleuni euraidd. O hirbell gwelais frycheuyn yn dod ataf, ac yn fuan deallais fod yna awyren yn hedfan allan o ganol y disgleirdeb.
Ni bu llawer o eiriau yn angenrheidiol pan gymerais Madlen yn fy mreichiau. Cofleidasom ein gilydd am funudau, ac yna ein dau yn sibrwd yn swil, ac ar yr un pryd, «Rwy i’n dy garu di».

Doedd hi ddim am siarad nac esbonio rhagor bryd hynny. «Gadewch i ni fynd i’r hen gyrchfa: y lle cynta’», meddai hi. Roeddwn i’n meddwl am yr un peth: y llwybr ar lan yr afon yng ngorllewin y ddinas, lle roedden ni’n arfer rhodio ar ein ennau ein hunain ac yn cael y sgyrsiau gorau gyda’n gilydd. Gadawsom y maes awyr gyda theimlad o ryddhad: o ddrws ar agor i fywyd newydd, anturus. Siaradsom gyda gwenau, a llygaid gloyw, gan gerdded law yn llaw ac yn eu gwasgu yn aml: y ddau yn ymddwyn fel cariadon yn eu harddegau! Roedd gorsaf y rheilffordd drefol gerllaw. Mewn amser byr, dyna ni mewn tren bach ar gledrau dyrchafedig yn mynd drwy faestrefi olddiwydiannol dwyrain y brifddinas, a heibio i Borthladd Canaria yn y pellter, a’i ardal yn disgleirio a’i chamaddewidion ariannol. Wedyn, newid i linell danddaearol, ac ymlaen i’r rhodfa hyfryd ar lan yr afon, ddeuddeng milltir o’r maes awyr.

Roedd y bore’n deg, a’r heulwen ar ddyfroedd eang yr afon oedd yn llawn oherwydd y llanw uchel. Gwelid adeiladau a choed y lan gyferbyn yn isel yn y pellter. Roedd cychod clybiau rhwyfo yn ymarfer ar y dwr, a gwylanod yn hedfan uwchben. Dewisasom y cyfeiriad heb sgwrs amdano. Roedd y llwybr yn gyfarwydd i ni dau. Dan resi o blanwydd a derw oedd yn cysgodi’r rhodfa, roedd beicwyr yn tramwyo, a rhedwyr ymarferiad, pobl gyda chwn, plant, a rhieni yn gwthio cerbydau babanod. Gyda’r afon i’r dde, a meysydd chwaraeon i’r aswy, ymlwybrasom heb ruthro a heb lawer o sgwrs.

Ar ol hanner awr o gerdded, cyraeddasom gaffe ar ochr y llwybr, ac eistedd wrth fwrdd y tu allan. Roedden ni’n wynebu’n gilydd dros y bwrdd ac yn cydio dwylo yn y canol. Ni chymhellais Madlen i siarad. Roeddwn yn gwybod ei bod am esbonio’r cwbl i mi. Roedd ei hwyneb yn ddisglair, ond gyda thipyn o nerfusrwydd. Aeth ei golwg yn ddifrifol, a dechreuodd siarad yn araf ac yn dawel, gan edrych i lawr ar ein dwylo.
«Ti’n gwbod roeddwn i am gwrdd a thi heddi, ond wyt ti?» «Wrth gwrs.» «Ac mae’r rheswm pam doeddwn i ddim yn ateb dy negesau... doeddwn i ddim wedi d’anghofio di o gwbl. Ti’n gwybod?» «Ydw. Ond...» «Ar ol y misoedd diwethaf... a phopeth sy’ wedi digwydd rhyngddon ni... yr anawsterau i gyd... Wel roedd arna’ i angen... ystyried y dyfodol.» «Rw i’n deall, cariad. Paid a phoeni. Mae pethau wedi bod yn flin iawn i ti... Mae’n ddrwg gen i. Y fi sy’ ar fai, Madlen, nid tithau. Rw’ i fel arth a’i phawen mewn trap... yn fynych iawn: rhy fynych ar ol cymaint o wallgofrwydd yn y swyddfa, a gormod o amser yn y gwindy wedyn gyda’r «bechgyn». Wedi bod yn ynfytyn hunanol; dim esgus! Dim! Maddeua fi. Ond cofia. Rwyt ti’n mor annwyl i mi... yn fwy pwysig i mi na phopeth arall yn y byd. Rw i’n gwbod hynny ers dim ond y penwythnos yma. Rw i’n dy garu di Madlen. Rw i’n syweddoli am y tro cyntaf.» Edrychais ar ei hwyneb tra cododd hi ei golwg ataf. «Yfi hefyd, rw i’n dy garu di; rw i’n ei wybod nawr. Ond mae rhywbeth arall pwysig rw i am i ti’i wybod.» Roedd ei llygaid yn llawn o ddagrau, a’i llais yn crynu. «Nid i gyfarfod busnes yr es i Frwsel... ond i... i gwrdd a rhywun... a dyn arall.»

Ac felly y treiglodd allan yr hanes i gyd i’r golwg. Ei hanfodlonrwydd arnaf fi wedi bod yn tyfu. Y dyn a gyflwynwyd iddi ddau fis o’r blaen. Eu cyfarfyddiadau dirgel. Ei phenderfyniad i dreulio penwythnos mewn gwesty gydag ef ym Mrwsel. Eto, rwyfodd roedd hen deimlad yn parhau: ffordd arall; ac, yn y funud olaf, dyna hi’n petruso ac yn troi yn ol ar drothwy y gwesty, a chael tacsi i ganol y dref. Bu hi’n rhodio yn ystod oriau ar strydoedd y ddinas, eistedd mewn caffe drwy’r rhan fwyaf o’r nos, ac, o’r diwedd, penderfynu’n araf fynd yn ol a siarad gyda fi cyn gynted a phosibl.

«Ti’n gwybod y gwirionedd nawr. Mae’n bosib ni fyddi di ddim am ’y ngweld i drachefn,» meddai hi yn dawel. «Bydda’,» dywedais «Os wyt ti am adael y gorffennol ar ol. Yfi sy’ am ddechrau bywyd newydd, gyda thi. Yn ystod y penwythnos cefais freudwyddion dieithr: o obaith da yn y dyfodol; a -pheth od iawn- roedd teimlad gen i o fod yn ddiogel dan nawdd aderyn..»
«Alarch? Fe fu’r aderyn yma’n arwydd o ffyddlondeb mewn oes a fu.» «Ie! Yn union! Pam wyt ti’n gwybod?» «Roeddwn yn breuddwydio’r un peth, fy hunan!» Fe edrychasom ar ein gilydd heb ragor o eiriau, codi a throi yn ol at y llwybr. Roedd torf o bobl yn mynd heibio: dynion, merched, parau, rhieni, tadcuod a mamguod, rhai gyda’u hwyrion; pawb yn llonydd. Roedd y bobl yn sgwrsio yn ddedwydd gyda’u gilydd. Cychwynasom gerdded ar eu hol, law yn llaw. Ymddangosai glan yr afon yn fwy hyfryd a deniadol i mi nag erioed. Cemais ymlaen yn awyddus, a theimlo Madlen wrth fy ochr yn fodlon i ddilyn yr un ffordd. Edrychais i lawr ar yr afon, ac yna yn nofio yn rhwydd o’n blaen, alarch mawr gwyn.

Impressum

Tag der Veröffentlichung: 04.08.2011

Alle Rechte vorbehalten

Nächste Seite
Seite 1 /